Numbers 22

Brenin Moab yn anfon am Balaam

1Dyma bobl Israel yn teithio yn eu blaenau, ac yn gwersylla ar wastatir Moab yr ochr draw i'r Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho. 2Roedd Balac fab Sippor, brenin Moab, wedi clywed beth oedd pobl Israel wedi ei wneud i'r Amoriaid. 3Pan welodd pobl Moab gymaint o Israeliaid oedd yna, aethon nhw i banig llwyr. Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau. 4A dyma frenin Moab yn dweud wrth arweinwyr Midian, “Bydd y dyrfa enfawr yma yn llyncu popeth o'u cwmpas nhw, fel tarw yn pori cae yn lân.” A dyma Balac, oedd yn frenin Moab ar y pryd, 5yn anfon neges at Balaam fab Beor oedd yn dod o Pethor wrth yr Afon Ewffrates. “Mae yna dyrfa enfawr o bobl wedi dod allan o'r Aifft. Maen nhw ym mhobman, ac maen nhw wedi setlo gyferbyn â ni. 6Plîs wnei di ddod a'i melltithio nhw i mi. Maen nhw'n rhy gryf i mi ddelio gyda nhw. Ond falle wedyn y bydda i'n gallu eu gyrru nhw allan o'r wlad. Achos mae pwy bynnag wyt ti'n ei fendithio yn llwyddo, a pwy bynnag wyt ti'n ei felltithio yn syrthio.”

7Felly dyma arweinwyr Moab a Midian yn mynd i edrych am Balaam, a'r arian ganddyn nhw i dalu iddo felltithio Israel. Pan gyrhaeddon nhw, dyma nhw'n dweud wrtho beth oedd Balac eisiau. 8“Arhoswch yma heno,” meddai Balaam, “a bore fory bydda i'n dweud wrthoch chi beth mae'r Arglwydd wedi ei ddweud.” Felly dyma arweinwyr Moab yn aros gyda Balaam.

9A dyma Duw yn dod at Balaam a gofyn, “Pwy ydy'r dynion yma sydd gyda ti?” 10Atebodd Balaam, “Balac fab Sippor, brenin Moab, sydd wedi eu hanfon nhw ata i, i ddweud, 11‘Mae yna dyrfa enfawr o bobl wedi dod allan o'r Aifft. Maen nhw ym mhobman! Plîs wnei di ddod a'i melltithio nhw i mi. Falle wedyn y bydda i'n gallu eu gyrru nhw allan o'r wlad.’”

12“Paid mynd gyda nhw,” meddai Duw wrth Balaam. “Rhaid i ti beidio melltithio'r bobl yna, achos dw i wedi eu bendithio nhw.” 13Felly dyma Balaam yn codi'r bore wedyn, a dweud wrth swyddogion Balac, “Ewch adre. Dydy'r Arglwydd ddim am adael i mi fynd gyda chi.”

14A dyma swyddogion Moab yn mynd. Dyma nhw'n mynd yn ôl at Balac, a dweud wrtho fod Balaam wedi gwrthod dod gyda nhw.

15Ond dyma Balac yn trïo eto, ac yn anfon swyddogion pwysicach y tro yma, a mwy ohonyn nhw. 16A dyma nhw'n dweud wrth Balaam, “Mae Balac fab Sippor yn dweud, ‘Plîs paid gadael i ddim dy rwystro di rhag dod ata i. 17Bydda i'n dy dalu di'n hael – does ond rhaid i ti ddweud beth wyt ti eisiau. Unrhyw beth i dy gael di i ddod a melltithio'r bobl yma i mi.’”

18Ond dyma Balaam yn ateb, “Hyd yn oed petai Balac yn rhoi ei balas i mi, ac yn ei lenwi gydag arian ac aur, allwn i ddim mynd yn groes i beth mae'r Arglwydd wedi ei ddweud wrtho i. 19Ond arhoswch yma dros nos, i mi weld os oes gan yr Arglwydd rywbeth mwy i'w ddweud.”

20A dyma Duw yn dod at Balaam eto'r noson honno, a dweud wrtho y tro yma, “Os ydy'r dynion yma wedi dod i dy nôl di, dos gyda nhw. Ond paid gwneud dim byd ond beth dw i'n ddweud wrthot ti.”

Balaam a'i Asen

21Felly dyma Balaam yn codi'r bore wedyn, rhoi cyfrwy ar ei asen, ac i ffwrdd â fe gyda swyddogion Moab. 22Ond yna roedd Duw wedi gwylltio am ei fod wedi mynd, a dyma angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd o'i flaen, i'w rwystro. Roedd Balaam yn reidio ar gefn ei asen ar y pryd, a dau o'i weision gydag e. 23Pan welodd yr asen yr angel yn chwifio'i gleddyf ac yn blocio'r ffordd o'i flaen, dyma hi'n troi oddi ar y ffordd ac yn mynd i gae. A dyma Balaam yn dechrau chwipio'r anifail i geisio ei gael yn ôl ar y ffordd. 24Ond wrth iddyn nhw fynd rhwng dwy winllan, a wal bob ochr iddyn nhw, dyma angel yr Arglwydd yn sefyll eto ar ganol y llwybr cul. 25Wrth weld yr angel y tro yma, dyma'r asen yn mynd i'r ochr a gwasgu troed Balaam yn erbyn y wal. A dyma fe'n dechrau curo'r anifail eto. 26Yna dyma angel yr Arglwydd yn mynd yn bellach i lawr y llwybr, ac yn sefyll mewn lle oedd mor gul, doedd dim gobaith i'r asen fynd heibio iddo na hyd yn oed droi rownd. 27Y tro yma, pan welodd yr angel, dyma asen Balaam yn gorwedd i lawr tano. Roedd Balaam wedi gwylltio'n lân, ac roedd yn curo'r anifail gyda'i ffon. 28Ac yna dyma'r Arglwydd yn rhoi'r gallu i'r asen siarad. Meddai wrth Balaam, “Beth dw i wedi ei wneud i haeddu cael fy nghuro gen ti dair gwaith?”

29“Ti wedi gwneud i mi edrych yn ffŵl,” meddai Balaam. “Petai gen i gleddyf, byddwn i wedi dy ladd di erbyn hyn!”

30Dyma'r asen yn dweud wrth Balaam, “Ond dy asen di ydw i, yr un rwyt ti bob amser yn reidio ar ei chefn! Ydw i wedi gwneud rhywbeth fel yma o'r blaen?”

“Naddo,” meddai Balaam.

31A dyna pryd wnaeth yr Arglwydd adael i Balaam weld yr angel yn sefyll yn y ffordd yn chwifio ei gleddyf. A dyma fe'n ymgrymu a mynd ar ei wyneb ar lawr o flaen yr angel. 32A dyma'r angel yn gofyn iddo, “Pam wyt ti wedi curo dy asen fel yna dair gwaith? Dw i wedi dod allan i dy rwystro di am dy fod ti ar ormod o frys yn fy ngolwg i. 33Roedd yr asen wedi fy ngweld i, ac wedi troi i ffwrdd dair gwaith. Petai hi ddim wedi gwneud hynny byddwn wedi dy ladd di erbyn hyn, ond byddai'r asen yn dal yn fyw.”

34A dyma Balaam yn dweud wrth angel yr Arglwydd, “Dw i wedi pechu. Doedd gen i ddim syniad dy fod ti yna'n blocio'r ffordd. Felly, os ydw i ddim yn gwneud y peth iawn yn dy olwg di, gwna i droi yn ôl.” 35Ond dyma'r angel yn dweud wrth Balaam, “Dos gyda nhw. Ond paid dweud dim byd ond beth dw i'n ddweud wrthot ti.” Felly dyma Balaam yn mynd yn ei flaen gyda swyddogion Balac.

Balac yn croesawu Balaam

36Pan glywodd y brenin Balac fod Balaam ar ei ffordd, aeth allan i'w gyfarfod. Aeth yr holl ffordd i ffin bellaf Moab, i dref wrth ymyl Afon Arnon. 37A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Roeddwn i wedi anfon neges frys atat ti. Pam wnest ti ddim dod yn syth? Oeddet ti ddim yn credu y gallwn i dalu'n hael i ti?” 38A dyma Balaam yn ateb, “Wel, dw i yma nawr. Ond paid meddwl y galla i ddweud unrhyw beth dw i eisiau. Alla i ddim ond dweud beth mae'r Arglwydd yn ei roi i mi.”

39Yna dyma Balaam yn mynd gyda'r brenin Balac i Ciriath-chwtsoth. 40Ac yno dyma Balac yn aberthu teirw a defaid, ac yn rhoi peth o'r cig i Balaam a'r swyddogion oedd gydag e.

Neges gyntaf Balaam

41Y bore wedyn dyma'r brenin Balac yn mynd â Balaam i fyny i Bamoth-baal (sef ‛Ucheldir Baal‛). Roedd yn gallu gweld rhywfaint o bobl Israel o'r fan honno.

Copyright information for CYM